Ymgynghoriad ar y cynnig am

Fil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)

 


Ymateb Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru

 


Amdanom Ni


Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru (Grŵp CHC) yw'r corff sy'n cynrychioli cymdeithasau tai a sefydliadau cydfuddiannol cymunedol yng Nghymru, sydd i gyd yn gyrff dim-er-elw. Mae ein haelodau yn darparu dros 155,000 o gartrefi a gwasanaethau tai cysylltiedig ar draws Cymru. Yn 2012/13, roedd ein haelodau'n cyflogi 8,000 o bobl yn uniongyrchol ac yn gwario dros £1bn yn economi Cymru.[1] Mae ein haelodau'n gweithio'n agos gyda llywodraeth leol, cyrff trydydd sector a Llywodraeth Cymru i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau mewn cymunedau ar draws Cymru.

 

Ein hamcanion yw:

·         Bod yn brif lais y sector tai cymdeithasol.

·         Hyrwyddo'r sector tai cymdeithasol yng Nghymru.

·         Hyrwyddo lliniaru caledi ariannol drwy ddarpariaeth y sector o dai cymdeithasol cost isel.

·         Darparu gwasanaethau, addysg, hyfforddiant, gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i aelodau.

·         Annog a hwyluso darparu, adeiladu, gwella a rheoli tai cymdeithasol cost isel gan gymdeithasau tai yng Nghymru.

 

Yn 2010, ffurfiodd CHC strwythur grŵp gyda Care & Repair Cymru a CREW Adfywio Cymru er mwyn cyd-hyrwyddo tai dim-er-elw, gofal ac adfywio.

 

Pwyntiau cyffredinol

 

Mae CHC yn croesawu’r cyfle i ymateb i'r cynigion am Fil Addysg a Chynhwysiant Ariannol ac i drafod y materion a godwyd. Mae ein haelodau'n darparu cartrefi a gwasanaethau i rai o aelodau mwyaf bregus ein cymunedau ac felly gwyddom am werth addysg ariannol, yn neilltuol yng nghyd-destun polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddiwygio lles a'r cynnydd mawr mewn lefelau dyled personol.

 

Mae cymdeithasau tai yng Nghymru'n darparu cartrefi i rai o bobl fwyaf bregus ein cymunedau, gyda llawer ohonynt wedi eu hallgau'n ariannol ac fel canlyniad mewn risg o ddigartrefedd a chael eu hallgau'n gymdeithasol. Mae cymdeithasau tai Cymru'n gwneud llawer iawn o waith ataliol drwy eu rhaglenni gwrthdlodi a chynhwysiant ariannol eu hunain. Gweithiant mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol, undebau credyd, Moneyline Cymru a Mae Budd-daliadau yn Newid i ddatblygu gwasanaethau hygyrch a chynhwysfawr. Mae hyn yn neilltuol o bwysig yng ngoleuni taliadau uniongyrchol dan y Credyd Cynhwysol. Amcangyfrifwn mai tenantiaid tai cymdeithasol yw 60% o'r holl unigolion sydd wedi eu hallgau'n ariannol a'u bod felly'n debygol o fod â lefelau isel o allu ariannol. [2]

 

Mae ymgyrch Mae Budd-daliadau yn Newid yn enghraifft o agwedd gydweithiol y sector at allu ariannol. Bu tîm Mae Budd-daliadau yn Newid yn gweithio mewn partneriaeth gyda Moneyline Cymru, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, mudiadau cymunedol, elusennau a Dŵr Cymru, diolch i gyllid o'r Loteri Fawr (£248,000) ym Mehefin 2011. Ers dechrau'r prosiect, mae'r tîm wedi:

·    Cyflwyno dros 3,000 o sesiynau cynghori

·    Helpu pobl i ailstrwythuro cyllidebau a thrin gwerth dros £1,000,000 o ddyledion heb fod yn flaenoriaeth

·    Dynodi dros £390,000 o fudd-daliadau lles nad oedd yn cael eu hawlio

·    Dynodi dros £1,300,000 o ddyledion cysylltiedig â dŵr

·    Wedi rhoi cynllun cyllideb i 511 o bobl ei ddilyn a allai arwain at ddileu dros £700,000 o ddyledion

·    Cafodd biliau blynyddol 336 o bobl eu gostwng gan dros 50% diolch i gynllun Cymorth Dŵr, cyfanswm o £83,000.

·    Dynodwyd fod 628 o bobl mewn tlodi tanwydd a chael cymorth i hawlio'r Disgownt Cartref Cynnes a'i ychwanegu at y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethau, gan hawlio ad-daliad o dros £94,000 (£135 y flwyddyn).

·    O'r rhai a gynghorwyd, dywedodd 78% fod y sesiwn cynghori wedi gostwng y straen arnynt.

 

Mae tîm Mae Budd-daliadau yn Newid (www.yourbenefitsarechanging.co.uk) wedi ateb dros 1,300 ymholiad ar ddiwygio lles (sydd fel arfer am nifer o fudd-daliadau) ac wedi siarad gyda dros 1,500 o bobl mewn digwyddiadau cymunedol a lleoliadau allgymorth am ddiwygio lles. Maent hefyd wedi gweithio gyda Shelter Cymru a sefydliadau partner arall i roi gwybodaeth i 800 o bobl mewn gwahanol leoliadau ar draws Cymru. Mae dros 70 sefydliad wedi defnyddio brandio Mae Budd-daliadau yn Newid hyd yma.

 

Ymateb

 

  1. Beth yw eich barn am wneud addysg ariannol yn rhan statudol o'r cwricwlwm (o Gyfnod Allweddol 2 ymlaen) yn debyg i addysg bersonol a chymdeithasol ac addysg gysylltiedig â gwaith?

 

Cefnogwn y cynigion i'w gwneud yn ofyniad statudol ar ysgolion i sicrhau fod addysg ariannol yn rhan greiddiol o'r cwricwlwm ac yn argymell fod dyledion cysylltiedig â thai a chostau rhedeg tŷ yn ganolog i'r cwricwlwm arfaethedig i sicrhau y gall pobl ifanc gynnal eu tenantiaethau.

 

 

Mae pobl dan 25 oed yn fwy tebygol o brofi methiant tenantiaeth nag unrhyw grŵp oedran arall. My MyPad yng Nghasnewydd yn gweithio gyda phobl ifanc. Bu tri o denantiaid ifanc Tai Siarter a Solas Cymru, sy'n cymryd rhan yn MyPad,yn gweithio gyda staff Siarter i greu adnoddau dysgu ar gyfer y cwrs a lansiwyd ym Mai 2012. Bu'r bobl ifanc yn gweithio gyda swyddogion prosiect MyPad am ddau fis i gynhyrchu ffilm fer ar ddyled ieuenctid a llawlyfr cartref newydd i bobl ifanc. Mae prosiect MyPad yn galluogi pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus drostynt eu hunain am eu cyllid. Cyflwynir MyPad gan Gyngor Dinas Casnewydd a Cefnogi Pobl, ynghyd â Linc-Cymru, Cartrefi Dinas Casnewydd, Siarter a Melin.

 

Datblygwyd ap 'Going it Alone' gan Cartrefi Conwy, Cymdeithas Tai Gogledd Cymru a Chymdeithas Tai Clwyd i helpu pobl ifanc sy'n symud i'w cartrefi eu hunain am y tro cyntaf. Mae mwy o bobl yn cael mynediad i wybodaeth drwy ddyfeisiau symudol, er enghraifft mae 70% o bobl yn edrych ar wefan Mae Budd-daliadau yn Newid drwy ddefnyddio ffonau symudol neu gyfrifiaduron llechen.

 

Mae'r ap symudol yn rhoi cyngor sylfaenol da, eitem 'barn am eiddo' a dolenni defnyddiol i gael mwy o wybodaeth. Cyfrannodd preswylwyr Cartrefi Conwy at ddatblygu'r prosiect.

 

 

2.    I ba raddau y dylid rhoi mwy o sylw i addysg ariannol mewn ysgolion er mwyn paratoi pobl ifanc yn well at yr her o wneud penderfyniadau ariannol ar ôl gadael yr ysgol?

 

Os yw darpariaeth addysg ariannol i'w gynyddu mewn ysgolion, dylai ganolbwyntio ar y sylfeini er mwyn medru ei gyflawni. Mae'n debygol mai llunio cyllideb sylfaenol, mathau o gredyd a chostau tai a goblygiadau peidio talu yw'r pethau pwysicaf.

 

 

 

Gellid cyflwyno cynllunio a chynilo ar gyfer gwyliau, cost dechrau teulu, cynllunio ar gyfer angladdau, pensiynau a defnyddio gwasanaethau bancio ar-lein ar gyfer rhai dros 16 oed.

 

Rydym hefyd yn argymell fod pob math o fenthyca a chanlyniadau hynny'n cael eu hymchwilio i sicrhau y gall pobl ifanc wneud penderfyniadau gwybodus am eu hanghenion benthyca yn y dyfodol, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.

 

Mae Tai Pawb yn awgrymu fod addysg ariannol hefyd yn ystyried agweddau perthnasol ar gydraddoldeb i alluogi cynhwysiant ariannol. Mae rhai grwpiau yn fwy tebygol o gael eu hallgau'n ariannol a dylai mynd i'r afael â hyn ar oedran cynnar fod yn un o amcanion y Bil.

 

Er enghraifft, mae cynnyrch ariannol sydd ar gael sy'n cydymffurfio gyda chyfraith Shariah y gallai fod angen i Fwslemiaid wybod amdanynt. Gall pobl ifanc anabl hefyd fod eisiau gwybod am fudd-daliadau y gallent fod â hawl iddynt neu gynlluniau fel Mynediad i Waith i'w galluogi i gael cyflogaeth.

 

Gallai addysg ariannol hefyd edrych ar yr angen am gynllunio tymor hwy hefyd, megis yr angen i gynilo ar gyfer henoed, yn cynnwys materion megis cost bosibl talu am ofal a gwahanol opsiynau ar gyfer gwneud hynny.

 

Dylid ffurfioli'r gofyniad i ddarparu addysg ariannol fel rhan orfodol o'r cwricwlwm drwy addasu adran berthnasol Deddf Addysg 2002. Mae'n hysbys iawn nad yw'r trefniadau cyfredol yn ddigonol ac na fyddant yn darparu ymadawyr ysgol yn ddigonol i wneud penderfyniadau ariannol pan fyddant yn dechrau cymryd cyfrifoldebau ariannol.

 

 

  1. Ym mha ffyrdd, ac i ba raddau, y mae materion ariannol yn berthnasol i'r hyn y dylai pobl ifanc fod yn ei ddysgu yn yr ysgol?

 

Dylai arian a materion ariannol gael eu dysgu wrth ochr pynciau eraill gydag amrediad o sgiliau hanfodol eraill, megis cost prynu a choginio bwyd, cynllunio teulu, DIY sylfaenol a phwysigrwydd llunio cyllideb ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau hamdden a gwyliau.

 

Gallai gallu ariannol hefyd fod yn elfen o gymhwyster Bagloriaeth Cymru. Gallai ffitio mewn o safbwynt myfyrwyr yn ennill sgiliau bywyd a myfyrwyr yn helpu'r gymuned i ennill sgiliau bywyd.

 

Dylai gallu ariannol hefyd gael ei ddysgu wrth ochr cyngor am yrfaoedd posibl ac incwm. Er enghraifft, mae'r Cynllun Llysgennad Tai arfaethedig yn dangos y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc yn y sector tai ac yn codi ymwybyddiaeth am faterion cysylltiedig â thai. [3]

 

Mae gan y sector tai enw da am foddhad uchel gyda swyddi, yn deillio  o gyfle rhagorol i ddod yn agos at gwsmeriaid a gwneud gwahaniaeth hynod i fywydau pobl. O'r sector tai y daw bron hanner y sefydliadau yn y rhestr a gyhoeddwyd gan The Sunday Times yn 2014 o'r cant cwmni gorau i weithio iddynt. Yr her i'r sector yw recriwtio ffrwd cyson o bobl ifanc i ymuno â'n rhengoedd i sicrhau ein bod yn parhau'n flaengar, deinamig a pherthnasol.

 

Byddai Cynllun Llysgenhadon Tai yn cynnwys swyddogion tai talentog, galluog a brwdfrydig yn helpu i gyflawni'r nod yma. Byddai'r llysgenhadon yn gweithredu fel wyneb y sector, gan rannu profiadau cadarnhaol gyda phobl ifanc sy'n ystyried gyrfa yn y sector tai,  gan eu hysbrydoli a'u helpu i weld yr ystod eang o gyfleoedd y mae'r sector tai yn eu cynnig.

Mae Llysgenhadon Tai yn gweithio yn y sector tai gydag o leiaf ddwy flynedd o brofiad mewn hyfforddiant neu gyflogaeth. Cyflwynant wersi i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd i ddod â chyfleoedd dysgu a gyrfa yn fyw. Gallent hefyd fynychu digwyddiadau gyrfaoedd i farchnata tai i bobl ifanc.

 

Byddai'r cynllun yn codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd gyrfa ar gyfer pobl ifanc yn yr ardal a rhoi'r sgiliau iddynt a fyddai o fantais iddynt ar hyd eu gyrfaoedd, a hefyd godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwneud dewisiadau ariannol da drwy benderfyniadau gyrfa a hefyd gyllid personol.

 

 

  1. Os daw addysg ariannol yn rhan statudol o'r cwricwlwm, a ddylid rhoi hyblygrwydd i ysgolion wrth iddynt ddilyn canllawiau ar sut i ddarparu'r addysg honno? (Byddai hyn yn debyg i'r modd y mae Addysg Bersonol a Chymdeithasol ac addysg gysylltiedig â gwaith yn cael eu haddysgu, ond yn wahanol i bynciau'r cwricwlwm cenedlaethol).

 

Dylai ysgolion fod â'r hyblygrwydd i gysylltu addysg ariannol gydag Addysg Bersonol a Chymdeithasol ac addysg gysylltiedig â gwaith i gynyddu potensial dysgu i'r eithaf a helpu disgyblion i wneud y cysylltiad rhwng penderfyniadau ariannol a phenderfyniadau eraill bywyd megis dechrau teulu a dewisiadau gyrfa.

 

Bydd rhoi hyblygrwydd hefyd yn galluogi ysgolion i ganolbwyntio ar unrhyw faterion penodol sy'n berthnasol i'w hardal neu ddemograffeg. Er enghraifft gall ysgol yng Nghaerdydd gyda nifer fawr o ddisgyblion Mwslimaidd ddymuno cynnwys morgeisi Shariah ar y cwricwlwm, tra na fyddai ysgol mewn ardal wledig heb unrhyw ddisgyblion Mwslimaidd yn ystyried fod hyn yn berthnasol ac efallai'n dymuno canolbwyntio ar feysydd eraill o help i'w myfyrwyr yn lle hynny.

 

 

Byddai hyblygrwydd o'r fath yn galluogi ysgolion i gysylltu gyda phartneriaid allanol megis banciau a chyrff trydydd sector a allai gyflwyno sesiynau perthnasol gyda ffocws ar addysg ariannol.

 

Er enghraifft, mae cymdeithas tai Clwyd Alyn wedi gweithio gydag ysgolion lleol ar gyfer mentora staff a beirniadu cystadlaethau siarad cyhoeddus, a gwahanol brosiectau rhyng-genhedlaeth. Bu'r rhain ar bynciau megis garddio, celf a chrefft ac yn llwyddiannus iawn ar gyfer darllen mewn parau, yn hytrach na mynd i'r afael yn benodol â materion cynhwysiant ariannol, ond maent yn helpu i gynyddu ymnwybyddiaeth o dai a materion cysylltiedig â thai ar gyfnod pwysig yn natblygiad pobl ifanc.

 

Bu Clwyd Alyn hefyd yn gweithio gyda Barnado's Sir y Fflint i gynnal sesiynau cyngor rhagweithiol Money Magic. Roedd y sesiynau hyn yn cynyddu gallu ariannol fel prosiect rhyng-genhedlaeth gyda phreswylwyr. Arweiniwyd y sesiynau gan Vernon Fuller gan ddefnyddio'r celfyddydau i gyfleu negeseuon allweddol am allu ariannol.

 

Roedd her presenoldeb ysgol Cymdeithas Tai Rhondda yn gynllun ar gyfer ysgolion cynradd mewn ardal clwstwr yn hyrwyddo cynyddu cofnodion presenoldeb drwy gynnig cyfres o wobrau ar gyfer sicrhau'r cynnydd mwyaf mewn presenoldeb.

 

Nod y prosiect oedd helpu i wella cofnodion presenoldeb ysgolion cynradd yn y clwstwr drwy wobrwyo’r disgyblion, rhieni ac athrawon am eu holl waith caled. Roedd y prosiect yn ei gyfanrwydd yn gadarnhaol wrth hyrwyddo gwaith y Gymdeithas o fewn y gymuned.

 

Fel canlyniad i'r prosiect, mae pob un o'r chwe ysgol dan sylw wedi cynyddu presenoldeb gan 1% ar gyfartaledd. Mae'r prosiect wedi galluogi Cymdeithas Tai Rhondda i gryfhau partneriaethau a chynyddu eu proffil o fewn clwstwr Ferndale. Mae hefyd wedi gwella iechyd ac addysg y plant sydd fwyaf mewn risg. Mae Cymdeithas Tai Rhondda wedi cyfrannu at gymunedau cynaliadwy drwy ail-fuddsoddi mewn cymunedau, gan ddylanwadu a chefnogi partneriaethau sy'n ychwanegu gwerth.

 

  1. Beth yw eich barn am roi dyletswydd statudol ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau addysg lleol i ddarparu addysg ariannol yn ystod addysg orfodol o Gyfnod Allweddol 2 ymlaen?

 

Rydym yn cefnogi hyn ac yn cytuno y dylai'r dulliau Llywodraeth Cymru i sicrhau y caiff Addysg Bersonol a Chymdeithasol ei gyflwyno'n effeithlon ar hyn o bryd hefyd gael eu defnyddio ar gyfer addysg ariannol.

 

 

  1. Beth yw eich barn am osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod addysg ariannol yn cael ei darparu ar sail drawsgwricwlaidd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, a'i gwneud yn ofynnol iddynt ystyried hyn fel rhan o unrhyw adolygiadau o'r cwricwlwm?

 

Fel mae'r papur yn awgrymu, gall polisïau a deddfwriaeth am faterion ariannol newid yn eithaf cyflym a gall hyn newid y tirlun ariannol yn sylweddol iawn. Gall cynnyrch a thueddiadau ariannol newydd ddod i'r amlwg ac mae felly'n hanfodol fod Gweinidogion yn adolygu a llunio'r cwricwlwm ar y lefel yma.

 

Mae cynnydd benthycwyr diwrnod cyflog a'r rheolau newydd dan reoleiddiad FCA yn enghreifftiau o hyn, ynghyd â newidiadau i'r system budd-daliadau lles.

 

 

7.         Beth yw eich barn am ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ymgynghori'n ffurfiol â rhanddeiliaid ac arbenigwyr perthnasol wrth ddatblygu cynnwys y cwricwlwm addysg ariannol?

 

 

  1. Gyda pha bobl a sefydliadau y dylid ymgynghori?

 

Cefnogwn y gofyniad a gynigir ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori'n ffurfiol gyda rhanddeiliaid ac arbeigwyr perthnasol wrth ddatblygu'r cwricwlwm.


Y sefydliadau a awgrymwn:

·    Sefydliadau defnyddwyr, dyled a chyngor tai

·    Sefydliadau tai a landlordiaid

·    Sefydliadau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

·    Undebau Credyd Cymru

·    NIACE

·    Gwasanaeth Cynghori Ariannol

·    Toynbee Hall

·    FCA

·    Cwmnïau cyfleustod

·    Canolfannau UK Online (cyngor ar drafodion ariannol a bancio ar-lein)

 

 

9.         Beth yw eich barn am roi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu cynnydd addysg ariannol mewn ysgolion, ac i lunio adroddiad blynyddol ar hyn?

 

10.       Beth yw'ch barn am sut y dylai'r ddyletswydd hon gael ei chyflawni? Er enghraifft, a ddylai hyn fod yn rhan o waith Estyn wrth arolygu ysgolion ac awdurdodau addysg lleol yng Nghymru?

 

Cefnogwn y farn y dylid adolygu addysg ariannol mewn ysgolion yn gyson, yn neilltuol gan ei fod yn ategu ac felly fod yn rhaid iddo gadw'n gydwastad gyda datblygiadau eraill yn y cwricwlwm. Dylai Gweinidogion Cymru adolygu sut y cyflwynir y pwnc a sicrhau y caiff unrhyw newidiadau angenrheidiol eu gweithredu.

Pe daw addysg ariannol yn rhan o'r cwricwlwm statudol, byddai dyletswydd ar Estyn i edrych ar hyn o fewn y fframwaith arolygu gyffredinol, gan na chaiff meysydd pwnc penodol eu harolygu'n unigol.

 

 

11.       Pa mor briodol neu angenrheidiol fyddai ei gwneud hi'n ofynnol i brifysgolion a chorfforaethau addysg bellach ddarparu gwybodaeth i fyfyrwyr ynghylch ble i gael cyngor am reoli arian?

 

Dylai prifysgolion a sefydliadau addysg bellach hyrwyddo sgiliau ariannol ac argaeledd cyngor ariannol drwy eu gwasanaethau myfyrwyr, dyddiau agored ac undebau myfyrwyr.

 

Dylai cyngor neu argaeledd cyngor gael ei hyrwyddo a'i gynnig yn ystod y broses benthyciadau a grantiau myfyrwyr.

 

 

12.       A fyddai unrhyw oblygiadau o ran statws (dosbarthiad) sefydliadau addysg uwch a phellach a chyflwyno gofyniad o'r fath?

 

 

 

13.       Beth yw eich barn am ei gwneud hi'n ofynnol i bob awdurdod lleol fabwysiadu strategaeth sy'n amlinellu sut y mae'n bwriadu hyrwyddo cynhwysiant ariannol a llythrennedd ariannol trigolion yr ardal?

 

Credwn y dylai fod yn ofynnol i bob awdurdod lleol gael strategaeth sy'n amlinellu sut y bydd yn gweithio gyda rhanddeiliaid ac unigolion i hyrwyddo cynhwysiant a gallu ariannol. Mae hyn yn neilltuol o bwysig yng ngoleuni diwygiadau lles diweddar megis y 'dreth ystafelloedd gwely', pan fo mwy o bobl mewn anawsterau ariannol ac yn ei chael yn anodd deall newidiadau fydd yn effeithio arnynt.

 

Mae cymdeithasau tai Cymru ers blynyddoedd lawer wedi datblygu eu strategaethau eu hunain ar gynhwysiant ariannol i adolygu dulliau mewnol ar gyfer cael mynediad i gyngor a chefnogaeth a ffurfioli trefniadau gyda phartneriaid yn y sector gwirfoddol ac eraill.

 

Cyn ffurfioli eu gwaith mewn strategaethau, roedd cymdeithasau tai eisoes yn llwyddiannus wrth gyflwyno'r agenda cynhwysiant ariannol, ond fe wnaeth strategaeth eu helpu i adeiladu ar waith blaenorol cynhwysiant ariannol a rhoi mwy o eglurder yng nghyswllt sut maent yn cyflwyno rhaglen cynhwysiant ariannol effeithlon a chynhwysfawr.

 

Drwy ddatblygu strategaeth cynhwysiant ariannol, gallai awdurdod lleol ddisgwyl weld gostyngiad mewn ôl-ddyledion rhent, llai o eiddo'n cael eu gadael, gostwng digartrefedd a chymunedau mwy sefydlog wrth i gyfoeth barhau o fewn yr ardal.

 

O'i hanfod, mae cynhwysiant ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gydweithio oherwydd themâu trawsbynciol. Yn aml bydd angen i un sefydliad arwain wrth wneud hyn. Mewn llawer o ffyrdd awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i arwain ond ni ddigwyddodd hyn bob amser. Mae'n rhaid i'r hyrwyddwyr gwrthdlodi newydd ym mhob awdurdod lleol wneud y cysylltiadau gyda'r agenda gwrthdlodi a chynhwysiant ariannol ac addysg.

 

Cyflawnwyd llawer yn Sir Fynwy wrth uno gwaith cynhwysiant ariannol. Er mai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sydd wedi arwain yr agenda cynhwysiant ariannol, maent wedi llwyddo i ddatblygu dull partneriaeth a dros y 5 mlynedd maent wedi gallu cael yr awdurdod lleol yn Sir Fynwy i gytuno arwain y gwaith. Byddai strategaeth gydlynol ar gynhwysiant ariannol yn helpu'r datgysylltiad cyfredol rhwng cynlluniau gwrthdlodi a'r agenda cynhwysiant ariannol a hyrwyddo gwerth mewn gwasanaethau cyhoeddus a darpariaeth gwirioneddol gydlynol.

 

 

14.       Beth yw eich barn am ei gwneud hi'n ofynnol i strategaeth cynhwysiant ariannol pob awdurdod lleol ddangos sut y mae'r awdurdod yn bwriadu:

·    rheoleiddio masnachu stryd yn effeithiol;

·    cymryd camau i wahardd galwadau diwahoddiad yn eu hardaloedd;

·    ymwneud ag undebau credyd yn eu hardaloedd; a

·    hyrwyddo cynhwysiant ariannol wrth brynu nwyddau a gwasanaethau?

Cefnogwn y cynigion i awdurdodau lleol hyrwyddo cynhwysiant a lles ariannol a gwell gweithio partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a chyrff trydydd sector.

 

Dylid nodi y gallai atal pobl rhag benthyca gan fenthycwyr trwyddedig, a dilys, pa bynnag mor anghyfrifol y tybir eu bod, arwain at i bobl fenthyca can fenthycwyr arian anghyfreithlon mwy hygyrch.

 

Mae undebau credyd yn gwneud cynnydd da gyda'u cynlluniau busnes ac mae llawer yn awr yn gallu benthyca i broffil ehangach o gwsmeriaid. Bydd newidiadau mewn deddfwriaeth yn eu helpu i gyflawni cynaliadwyedd. Fodd bynnag, nid undebau credyd yw'r unig opsiwn ar gyfer y rhai sydd wedi eu hallgau o gynnyrch ariannol prif ffrwd. Mae Moneyline Cymru yn darparu gallu ariannol drwy ei wasanaeth benthyciadau ariannol. Ar hyn o bryd mae bron 100% o'r cwsmeriaid sy'n cymryd benthyciadau am y tro cyntaf yn agor cyfrif cynilo ac yn parhau i gynilo ar gyfer y Nadolig ac achlysuron arbennig eraill.

 

Mae Moneyline Cymru, cynllun gan gymdeithasau tai yng Nghymru, wedi agor canghennau mewn 7 ardal ddifreintiedig yng Nghymru, fel y dysgrifir yn y ddogfen. Mae Moneyline Cymru yn cynnig amgen synhwyrol i fenthycwyr carreg drws a benthyciadau diwrnod cyflog.

 

 

Ers sefydlu Moneyline Cymru yn 2009 mae wedi:

·    Rhoi benthyciadau gwerth £8 miliwn

·    Cymeradwyo dros 18,000 benthyciad i gwsmeriaid

·    Agor cyfrifon cynilo ar gyfer 80% o gwsmeriaid newydd

·    Cafodd dros 6,100 o gyfrifon cynilo eu hagor hyd yma

·    Helpu cwsmeriaid i arbed cyfanswm cyfun o £1.25 miliwn yn eu cyfrifon cynilo

 

Mae Moneyline Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid eraill i gynyddu gallu ariannol a gwella dewis. Mae Moneyline Cymru Abertawe yn gweithio ar hyn o bryd gyda Chyngor Dinas Abertawe ac ymgyrch Mae Budd-daliadau yn Newid (www.yourbenefitsarechanging.co.uk) i godi ymwybyddiaeth am ledaenu Credyd Cynhwysol. Bu Cyngor Abertawe yn rhagweithiol iawn wrth ymgyrchu yn erbyn benthyciadau diwrnod cyflog a gweithio dros les economaidd yr ardal ac yn defnyddio unrhyw bwerau sydd ar gael iddynt i atal benthycwyr diegwyddor rhag symud i'r stryd fawr.

 

15.       A oes rhagor o bethau y dylai'r strategaeth eu cynnwys o ran sut y mae awdurdodau lleol yn hyrwyddo cynhwysiant a llythrennedd ariannol?

Cefnogwn y cynigion i awdurdodau lleol hyrwyddo cynhwysiant a lles ariannol a gwella gweithio partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a chyrff trydydd sector.

 

Dylai strategaethau newydd ar gynhwysiant ariannol gan awdurdodau lleol hefyd gynnwys ffocws penodol ar anghenion grwpiau sydd mewn risg o gael eu hallgau'n ariannol, yn cynnwys rhai gyda nodweddion gwarchodedig.

 

Dangosodd ymchwil fod nifer o grwpiau mewn risg o gael eu hallgau ariannol sy'n ei chael yn anodd cael mynediad i gynnyrch ariannol prif ffrwd. Er enghraifft:

•           Mae pobl anabl yn fwy tebygol na'r cyfartalog o ddefnyddio siarc benthyca [4]

•           Mae pobl o gefndir du a lleiafrif ethnig yn llai tebygol o fod â chyfrif banc [5]

•           Mae pobl ifanc yn llai tebygol o fod â chynilon neu yswiriant[6]

 

Er bod llawer o'r rhesymau am hyn a'r rhwystrau y gall cymunedau eu hwynebu y tu hwnt i reolaeth awdurdodau lleol, byddant mewn sefyllfa i ddadansoddi ac ymateb i'r rhai sydd fwyaf perthnasol i'w poblogaeth leol.

 

 

16.       Beth yw eich barn am ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi adroddiad blynyddol ar sut y maent wedi rhoi eu strategaeth cynhwysiant ariannol ar waith?

 

Gallai awdurdodau lleol gynnwys eu cynnydd yn eu hadroddiad blynyddol cyffredinol. Fodd bynnag, yn ogystal â strategaeth, dylai pob awdurdod lleol baratoi cynllun gweithredu sy'n dangos yn glir pa unigolyn sy'n gyfrifol am oruchwylio a/neu weithredu pob pwynt gweithredu.

 

Mae cymdeithasau tai yn adolygu eu strategaethau a'u cynlluniau gweithredu yn gyson ac yn mesur eu canlyniadau o gymharu â thargedau a osodwyd ymlaen llaw.

 

 

17.       A ddylai'r Bil wneud unrhyw ddarpariaeth arall ynghylch y trefniadau monitro neu orfodi mewn perthynas â'r strategaeth cynhwysiant ariannol? Os hynny, sut fath o ddarpariaeth?

 

18.       Beth yw eich barn am alluogi Gweinidogion Cymru i roi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch unrhyw agwedd o'r modd y maent yn cydymffurfio â'r darpariaethau yn y Bil (gan gynnwys llunio a gweithredu strategaeth ar gynhwysiant ariannol)?

 

Credwn y dylai canllawiau gael eu cyhoeddi. 

 

 

19.       A ddylai'r cyhoedd allu defnyddio cyfleusterau ar-lein mewn llyfrgelloedd heb orfod talu amdanynt, ac os felly, a yw'n angenrheidiol deddfu ar y` mater hwn?

 

Ni chredwn y dylai llyfrgelloedd godi tâl am gyfleusterau ar-lein. Mae ymgyrch Mae Budd-daliadau yn Newid yn gweithio gyda llyfrgelloedd Cymru i godi ymwybyddiaeth ymysg staff llyfrgell am sut y bydd newidiadau mewn budd-daliadau yn effeithio ar eu defnyddwyr gwasanaeth. Yr adborth gan lyfrgelloedd yw bod cwsmeriaid sy'n defnyddio cyfleusterau ar-lein yn debygol o fod yn agored i niwed ac wedi eu hallgau'n ariannol ac yn ddigidol a felly'n methu fforddio gwneud unrhyw gyfraniad. Mae unrhyw gynllun gyda phrawf modd yn debygol o fod yn anymarferol oherwydd costau sy'n gysylltiedig gyda'r cynnydd mewn adnoddau sydd ei angen i redeg cynllun o'r fath.

 

Mae'n sicr y disgwylir i lyfrgelloedd fod â rhan yn y Fframwaith Cefnogaeth Gwasanaethau Lleol sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd mewn awdurdodau lleol ar draws Cymru i drin lefelau'r gefnogaeth y bydd y rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ei angen.

 

Dylai llyfrgelloedd dderbyn cyllid pellach i'w galluogi i wella eu gwasanaethau ar-lein a chynyddu eu lefelau staffio i'w galluogi i ymdopi gyda'r galw cynyddol y maent yn debygol o'i brofi fel y caiff Credyd Cynhwysol ei ymestyn.

 

Mae hefyd yn bwysig fod pob aelod o'r cyhoedd yn gallu defnyddio cyfrifiaduron a bod ddigon o feddalwedd hygyrch ar gael, megis darllenwyr sgrin,  fel na chaiff pobl anabl eu hallgau'n ddigidol ymhellach.

 

Dylai gwybodaeth am argaeledd gwasanaethau rhyngrwyd, yn ogystal ag unrhyw gyrsiau neu gefnogaeth a gynigir, hefyd fod ar gael mewn fformatau ac ieithoedd eraill i  sicrhau y gall pobl anabl, neu rai sydd ag iaith gyntaf heblaw'r Gymraeg neu'r Saesneg gael mynediad i'r gwasanaethau a gynigir. 

 

 

20.       A ydych yn rhagweld y gallai unrhyw broblemau godi o wahardd llyfrgelloedd rhag codi tâl am ddefnyddio'r rhyngrwyd?

 

Mae llyfrgelloedd yn ei chael yn anodd ymdopi gyda'r lefel o gefnogaeth y mae llawer o'u defnyddwyr gwasanaeth ei angen oherwydd lefel y gefnogaeth sydd ei hangen. Yn aml mae gofyn i staff gynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth nad oes ganddynt sgiliau sylfaenol mewn technoleg gwybodaeth ac mae hyn yn debygol o gynyddu oherwydd proses gais ar-lein Credyd Cynhwysol. Yn ddamcaniaethol, gallai codi tâl am fynediad i'r rhyngrwyd greu ffrwd incwm ar gyfer darparu mwy o gefnogaeth i'r rhai sy'n cyrchu'r broses gais drwy lyfrgelloedd. Rhagwelwn y gallai gwahardd llyfrgelloedd rhag codi tâl am fynediad i'r rhyngrwyd eu hatal rhag cynhyrchu'r ffrydiau incwm y maent eu hangen i drin galw cynyddol. Fodd bynnag, byddai angen cynnal prawf modd ar gostau i sicrhau nad oedd rhai ar incwm isel yn cael eu hatal rhag defnyddio'r gwasanaeth. Felly, yn ymarferol, mae cynllun o'r fath yn annhebyg o gynhyrchu'r incwm sydd ei angen i gefnogi cynnydd o'r fath mewn galw. Rydym felly o blaid i lyfrgelloedd dderbyn mwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gynyddu mynediad a chefnogaeth ar-lein yn ystod cyfnod o angen cynyddol.

 

 

21.       A oes achlysuron yn eich barn chi pan ellid cyfiawnhau codi tâl ar y cyhoedd am ddefnyddio cyfrifiaduron mewn llyfrgelloedd?

 

Mewn egwyddor, credwn na ddylai llyfrgelloedd godi tâl ar y cyhoedd am ddefnyddio cyfrifiaduron. Fodd bynnag gall fod achosion lle gall fod angen codi tâl am ddeunyddiau, megis deunyddiau argraffu.

 

 

22.     Pa mor briodol neu angenrheidiol fyddai ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol roi cyngor penodol am reoli arian i'r rheini sydd wedi derbyn gofal?

 

Mae plant sydd wedi derbyn gofal yn llawer llai tebygol o fod wedi cymryd rhan mewn addysg prif ffrwd ac felly'n fwy tebygol o fod yn brin o sgiliau rhifedd a llythrennedd sylfaenol. Mae absenoldeb cefnogaeth deuluol i lawer o blant sy'n derbyn gofal yn golygu nad oes ganddynt fynediad i'r gefnogaeth ariannol, emosiynol ac ymarferol sydd ar gael i'w cyfoedion a gallant fod yn llai tebygol o sicrhau cyflogaeth a thrin eu harian yn effeithlon. Cefnogwn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu cyngor ar reolaeth ariannol i blant sy'n derbyn gofal cyn a hefyd ar ôl iddynt adael y system gofal.

 

23.       Pa mor briodol neu angenrheidiol fyddai ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi cyngor am reoli arian i unigolion sy'n ceisio cymorth gyda materion cysylltiedig eraill?

 

Dylai swyddogion awdurdodau lleol gael eu hyfforddi i adnabod a chyfeirio'r rhai yr ymddengys eu bod yn cael trafferthion gyda rheoli arian. Mae llawer o awdurdodau lleol yn rhoi cyngor ariannol a chyngor ar ddyled, yn neilltuol i rai sydd mewn risg o ddod yn ddigartref. Er enghraifft, mae gan Gyngor Dinas Caerdydd gynghorwyr mewnol ar ddyled sy'n gweithio o fewn ei huned atal digartrefedd. Fodd bynnag, gellid adnabod arwyddion camreolaeth ariannol a lefelau isel o sgiliau sylfaenol cyn i'r sefyllfa ddod yn argyfwng, er enghraifft,  yn ystod ymholiadau am y Dreth Gyngor, gofal cymdeithasol ac ymholiadau cyffredinol yn ymwneud â thai.

 

Dylai awdurdodau lleol gydweithio gyda chyrff eraill i ddarparu cyngor penodol ar reoli arian, er enghraifft, y Gwasanaeth Cyngor Ariannol, ymgyrch Mae Budd-daliadau yn Newid a chyrff lleol a all ddarparu'r gwasanaeth yma, yn hytrach na cheisio datblygu eu gwasanaeth eu hunain.

 

 

24.     A ydych yn rhagweld unrhyw oblygiadau ariannol, o ran costau neu fanteision, i unrhyw sefydliadau neu bobl benodol mewn perthynas â'r cynigion yn y ddogfen hon? Os hynny, a allwch chi ddisgrifio a manylu ar y goblygiadau ariannol hyn?

 

Ychydig iawn o gostau uniongyrchol sy'n gysylltiedig â gweithredu'r cynigion a nodir yn y ddogfen yma. Mewn gwirionedd, bu cymdeithasau tai yn rhoi cynhwysiant ariannol a digidol a gallu ariannol ym mhrif ffrwd eu gwaith am flynyddoedd lawer heb fynd i gostau uniongyrchol.

 

Amser ac ymrwymiad staff yw'r prif oblygiadau adnoddau ar gyfer sefydliadau; fodd bynnag, mae'r agenda gallu ariannol yn un ataliol, felly caiff budd gweithredu'r cynigion ei fedi gan unigolion a sefydliadau yn y tymor hwy.



[1] Mesur Effaith Economaidd Cymdeithasau Tai Cymru, Tachwedd 2012

[2] Cynhwysiant Ariannol a Thai: Arolwg Gwaelodlin, Sefydliad Siartredig Tai (CIH)

[3] Cynllun Llysgennad Tai, Lisa Evans, Mawrth 2014 http://wp.me/s4nyuV-post1’

[4] Joe Allen, Disability Poverty in Wales, Leonard Cheshire Disability, 2010 http://www.leonardcheshire.org/sites/default/files/Disability%20Poverty%20in%20Wales.pdf

[5] Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus, Review of access to essential services: Financial inclusion and utilities, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Medi  2010

[6] Ibid